Bridge St, Corris, Machynlleth SY20 9SP
Yn ystod 2023, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi bod yn cefnogi naw artist i wrando ar ac i ddysgu oddi wrth nifer o ieithoedd brodorol sydd mewn perygl ledled y byd fel rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y CU.
Fel un o’r naw artist, datblygodd Veronica Calarco brosiect gwrando dwfn a chydberthynas rhwng artistiaid yn Awstralia, Iwerddon a Chymru, gan greu gofod i’r artistiaid ailffurfio sut maent yn dysgu oddi wrth ei gilydd, a rhannu gwybodaeth am archwiliadau diwylliannol, ieithyddol a chreadigol ei gilydd. Bydd Stiwdio Maelor yn cynnal arddangosfa guredig, Focail ag Bogadh, o’r gweithiau a grëwyd yn ystod y prosiect.
Bydd yr arddangosfa hon yn agor Dydd Sul 10fed Medi, 12-5pm gyda gwin o 3pm
Gellir gweld yr arddangosfa ar ddiwrnodau eraill drwy apwyntiad: negeswch neu anfonwch e-bost i archebu stiwdiomaelor@gmail.com
Neu os gwelwch fi yn y stiwdio, curwch ar y ffenestri unrhyw bryd yn ystod mis Medi
Stiwdio Maelor, Stryd y Bont, Corris SY20 9SP